Deiseb a gwblhawyd Dylid sicrhau bod proses sgrinio'r galon ar gael i bob person ifanc 11-35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon
O blith y 269 o bobl ifanc wnaeth farw’n sydyn yn y DU y llynedd, roedd 49 ohonynt yn athletwyr cystadleuol â chyflyrau heb eu diagnosio ar y galon.
Mae sgrinio'r galon wedi bod yn broses orfodol i bawb yn eu harddegau ac oedolion sy'n cystadlu mewn chwaraeon athletaidd yn yr Eidal ers 1982, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn cynnig prosesau sgrinio tebyg. Gwaetha’r modd, mae Cymru a’r DU ar ei hôl hi. Byddai’n dda gweld Cymru’n chwarae rhan arweiniol yn y DU, yn hyn o beth.
Rhagor o fanylion
Ar sail ein sesiynau presennol sgrinio’r galon drwy broses electro-gardiogram, fe ganfyddom fod 1 o bob 4 sgriniad wedi datgelu'r angen am ymchwiliad pellach gydag eco-gardiogram.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon