Deiseb a wrthodwyd Newid y broses gwyno ar gyfer Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol gan nad ydynt yn addas at y diben

Nid yw'r gweithdrefnau cwyno cyfredol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol ehangach, a byrddau iechyd, yn addas at y diben gan eu bod yn amddiffyn y sefydliadau yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion mewn ffordd deg. Rwy'n ymwybodol o ofalwyr di-dâl / rhieni plant anabl sydd wedi cael eu bygwth i beidio â gwneud cwynion neu’n cael eu bygwth os ydynt yn cwyno gyda bygythiadau o’u plentyn yn cael eu tynnu oddi wrthynt neu gefnogaeth yn cael ei hatal. Rhaid dwyn gweithwyr proffesiynol i gyfrif.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o ofalwyr di-dâl / rhieni plant anabl ofn siarad allan. Mae angen diogelu teuluoedd wrth iddynt ddefnyddio'r gweithdrefnau cwyno. Mae angen newid y polisïau fel bod gan bobl yr hawl i ddefnyddio'r gweithdrefnau cwynion heb gael eu cosbi gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi