Deiseb a gaewyd Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Mae Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad o'r diwedd na ddylai trydedd bont dros y Fenai gael ei hadeiladu oherwydd pryderon ynghylch newid hinsawdd. Er ein bod i gyd yn deall ac yn gwerthfawrogi’r materion ynghylch yr hinsawdd, mae’r penderfyniad hwn yn ergyd drom i drigolion Ynys Môn ac i unrhyw un sy’n cymudo’n rheolaidd dros y Fenai.

Rhagor o fanylion

Mae trydedd groesfan dros y Fenai wedi bod yn gynnig prosiect ers blynyddoedd lawer yn y gobaith y byddai’n cael ei hadeiladu o’r diwedd ar ôl i ganlyniad ymgynghoriad ar y cynlluniau gael ei gyhoeddi yn 2018. Fodd bynnag, yn 2021, cafodd y prosiect hwn (fel prosiectau ffyrdd eraill yng Nghymru) ei rewi er mwyn i’r Panel Adolygu Ffyrdd graffu arno.
Cafwyd llawer o ddadleuon ynghylch gwydnwch, yn fwyaf diweddar pan gafodd Pont y Borth ei chau am dri mis. Dangosodd hynny faint o hunllef yw croesi Pont Britannia oherwydd y cynnydd yn y traffig, a phe bai’n rhaid i’r bont honno gau am gyfnod, byddai Pont y Borth yn sicr yn methu â delio â'r cynnydd mewn traffig.
Gwnaeth yr adolygiad hyd yn oed ddweud y byddai cefnogi’r drydedd groesfan yn gwella diogelwch, gwydnwch a theithio llesol, ond serch hynny daeth i’r casgliad na ddylai’r prosiect fynd yn ei flaen, sy’n gwneud y penderfyniad yn fwy dryslyd fyth.
Dylid cymeradwyo adeiladu trydedd groesfan dros y Fenai, gan y gall gwneud hynny fod yn gatalydd gwych i brosiectau sy’n llesol i’r hinsawdd yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

362 llofnod

Dangos ar fap

10,000