Deiseb a gwblhawyd Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau

Yn ystod y pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ddiogelu’r rhwydwaith bysiau.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried dod â’r cynllun hwn i ben, er gwaethaf y ffaith nad yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Rydym am weld y cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a chynllun adfer cenedlaethol ar gyfer y sector bysiau’n cael ei gynhyrchu ar y cyd â gweithredwyr bysiau, teithwyr, awdurdodau lleol ac eraill, er mwyn adeiladu gwasanaethau bysiau mwy cynhwysfawr a chynaliadwy.

Rhagor o fanylion

Bysiau yw'r math o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf.
Mae pobl yn defnyddio bysiau bob dydd i fynd i’r gwaith, yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol, i wirfoddoli, i fynd i’r siopau a chyfleusterau hamdden, ac ar gyfer apwyntiadau â meddygon, gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill a mwy, ac i ddod yn ôl.
Mae bysiau’n bwysig i gyflawni nodau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael ag unigrwydd, hyrwyddo llesiant cymdeithasol ac economaidd, a gwella mynediad at wasanaethau.
Wrth i Lywodraeth Cymru atal adeiladu ffyrdd newydd, mae angen buddsoddiad ychwanegol mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

775 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 250 o lofnodion ar bapur.