Deiseb a wrthodwyd Cau Maes Awyr Caerdydd a buddsoddi ym Maes Awyr Abertawe fel porth De Cymru i'r byd
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi perfformio'n wael yn rheolaidd ac wedi methu ag apelio at gwmnïau hedfan ledled y DU ac Ewrop, sy’n ffactor hanfodol o ran cael maes awyr gwerth chweil yn Ne Cymru. Mae Maes Awyr Caerdydd mewn lleoliad ofnadwy, gan ei fod yn llawer rhy agos at Faes Awyr Bryste, sy’n well na Chaerdydd ym mhob ffordd. Mae gan Faes Awyr Bryste dros 100 o gyrchfannau a 13 cwmni hedfan, tra bod gan Faes Awyr Caerdydd 7 llwybr sy’n gweithredu’n flynyddol.
Mae'r maes awyr yn gwneud colledion yn rheolaidd ac yn wastraff o arian trethdalwyr.
Rhagor o fanylion
Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi ym Maes Awyr Abertawe fel y maes awyr newydd i Dde Cymru. Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru ac mae'r un mor bell i gyrraedd ardaloedd fel Sir Benfro a Chasnewydd. Bydd hyn yn gwneud hedfan o Gymru yn llawer mwy apelgar i deithwyr a’r cwmnïau hedfan mwy sy’n gweithredu yn y DU.
Er bod gan Faes Awyr Abertawe gorstir o'i amgylch, mae llawer o gyfleoedd datblygu yno i oresgyn y mân broblemau hyn. Yn yr un modd â Maes Awyr Caerdydd, gellir rheoli traffig awyr mewn ffordd sy'n lleihau llygredd aer a sŵn.
Mae gan Faes Awyr Abertawe’r potensial i greu rhedfa newydd sbon ar un pen sy’n golygu y bydd awyrennau'n osgoi hedfan dros dai wrth iddynt nesáu at lanio, ac mae ganddo digonedd o le i ehangu gorsaf a llain y maes awyr.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi