Deiseb a gwblhawyd Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru

Ar hyn o bryd mae’r holl ffyrdd, ac eithrio cefnffyrdd mawr, yn dod o dan gyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Bydd cynnwys y rhwydweithiau cefnffyrdd o fewn cyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn arwain at benderfyniadau llawer mwy perthnasol a phragmatig, gan fod gan awdurdodau lleol ddealltwriaeth lawer gwell o anghenion busnesau, cymunedau, a’r economi leol.

Rhagor o fanylion

Mae gan ogledd Cymru rai o’r parciau diwydiannol mwyaf (fel Wrecsam a Glannau Dyfrdwy) yn y DU. Mae llawer o gwmnïau rhyngwladol adnabyddus wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Mae nifer y swyddi gweithgynhyrchu yn yr ardal ymhlith y mwyaf yn y DU. Mae Caergybi, dau faes awyr rhyngwladol (Lerpwl a Manceinion) yn ei gwneud yn hawdd hyrwyddo gogledd Cymru fel lle gwych ar gyfer buddsoddi. Yn anffodus, mae ei rwydwaith ffyrdd yn hen ac felly yn atal y rhanbarth rhag cyflawni ei botensial ar gyfer twf economaidd. Mae’n rhaid i’r ffyrdd hyn, gan gynnwys y cefnffyrdd, gael eu cynllunio a’u dylunio ar y cyd â’r cymunedau a busnesau lleol er mwyn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn dwyn y buddion economaidd gorau posibl. Bydd hyn yn mynd i'r afael ag anghenion lleol megis mynediad hawdd at gyflogaeth. Dim ond penderfyniad lleol fydd yn mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ffyrdd gogledd Cymru. Mae angen gwrando ar lais busnesau a chymunedau lleol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

330 llofnod

Dangos ar fap

10,000