Deiseb a gaewyd Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.
Mae'r gwaharddiad posibl hwn wedi'i gyflwyno drwy ddeiseb a gyflwynwyd gan elusen. Rwyf fi o’r farn nad oedd y wybodaeth a ddefnyddiwyd i greu’r ddeiseb honno yn ffeithiol gywir, a’u bod wedi defnyddio ffigurau a oedd wedi’u chwyddo’n aruthrol o ran nifer y milgwn a gaiff eu hanafu, a hynny heb ddim tystiolaeth ategol. Mae'r elusen wedi cael cais am dystiolaeth ar sawl achlysur ond mae wedi gwrthod. Cafodd y ddeiseb 35,000 o lofnodion ond roedd llai na 19,000 o'r llofnodion hyn o Gymru.
Rhagor o fanylion
Byddai gwahardd rasio milgwn yn cael effaith economaidd ar unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant. Byddai effaith uniongyrchol hefyd ar Stadiwm y Cwm, ac ar ddatblygiad tymor canolig a hirdymor ardal Ystrad Mynach. Byddai effaith negyddol hefyd ar frid y milgi.
Mae Stadiwm Milgwn y Cwm yn y broses o ddod yn drac cofrestredig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB). Mae'n rhaid i bob trac a drwyddedir gan GBGB gadw at Reolau Rasio'r rheolydd sy'n ceisio cynnal y safonau uchaf oll o ran lles a chywirdeb trin milgwn. Mae dros 200 o reolau sy'n ymwneud â phob agwedd ar sut mae'r gamp yn cael ei chynnal a'i rheoleiddio, gan gynnwys sut y gofelir am filgwn pan fyddant ar y trac, gartref yng nghytiau preswyl eu hyfforddwr, wrth gael eu cludo ac yng nghyfnod eu hymddeoliad.
Ar hyn o bryd mae gan y Senedd grŵp trawsbleidiol i gefnogi rasio ceffylau yng Nghymru, a gofynnwn am i’r un gefnogaeth gael ei dangos i rasio milgwn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl
Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl
Busnes arall y Senedd
Ymgynghoriad ar agor
Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru i glywed barn ar trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried y posibilrwydd o drwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio fel milgwn, yn cynnwys hefyd gofyn am dystiolaeth i gyfiawnhau neu wrthod ystyried gwaharddiad graddol ar rasio cŵn yn y dyfodol.
Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 1 Mawrth 2024 a gellir ei gyrchu trwy'r linc ganlynol: https://www.llyw.cymru/trwyddedu-sefydliadau-lles-gweithgareddau-ac-arddangosfeydd-anifeiliaid.