Deiseb a gwblhawyd Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar

Rhaid inni warchod tir categori 3b i sicrhau diogeledd bwyd:
• Dim ond 10-13 y cant o Gymru sydd yn dir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (gradd 1 i radd 3a). Mae newid hinsawdd yn peryglu newid i raddfeydd tir amaethyddol
• Mae tir 3b yn cynnal cnydau
• Mae ffermydd solar sydd â thir gradd 3a o fewn clytiau tir 3b yn cael eu cymeradwyo (yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru). Mae adeiladu/datgomisiynu yn difrodi tir yn barhaol; bydd tir categori 3a yn cael ei golli
• Nid oes dim rhwymedigaeth gytundebol i hawliadau pwrpas deuol wneud iawn am golli tir - anaml y mae defaid yn pori o dan baneli solar.

Rhagor o fanylion

Mae datblygwyr yn targedu polisïau cynllunio mwy caniataol Llywodraeth Cymru: Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar gynigion dros 10MW, ac awdurdodau cynllunio lleol Lloegr a’r Alban sy’n penderfynu ar gynigion hyd at 50MW. Safleoedd tir llwyd, eiddo preswyl ac adeiladau masnachol yw’r lleoedd mwyaf addas ar gyfer paneli solar: defnyddiwch y cysylltiadau grid presennol, i leihau biliau trydan i bobl leol a chyflenwch drydan dros ben i'r Grid Cenedlaethol = llai o alw am drydan y grid, ac yna caiff ein tir amaethyddol (ein diogeledd bwyd) ei gynnal.
• Polisi Pridd Llywodraeth Cymru ac Uned Cynllunio Defnydd Tir Amaethyddol 2018-19 Rhaglen Dystiolaeth Polisi Pridd Chwefror 2020
https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-05/dosbarthiad-tir-amaethyddol-cwestiynau-cyffredin.pdf
• PEDW DNS/3245065 Penderfyniad Gweinidog Cymru 27/10/22
• PEDW DNS/3267575 2022-12-19 REPS009WGNewidHinsawdd
Mae CAEVOD yn gwrthwynebu gorddatblygu yn Nwyrain Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy yn y lleoliad cywir: sef bod yn niwtral o ran carbon yng Nghymru heb ddinistrio ein cefn gwlad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

271 llofnod

Dangos ar fap

10,000