Deiseb a wrthodwyd Gwella ansawdd y wybodaeth a ddefnyddir ym mhroses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Proses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru:
• Mae’n fwy caniataol na Lloegr/Alban felly mae cynigwyr yn targedu Cymru
• Nid yw’n gwirio manylion cwmnïau sy'n cynnig codi ffermydd solar
• Mae’n caniatáu i gynigwyr ddylanwadu ar benderfyniadau gyda haeriadau heb eu herio/di-sail
• Mae’n defnyddio termau heb eu diffinio sy'n galluogi cynigwyr i fynnu cydymffurfiaeth amheus ag Asesiadau Effaith Amgylcheddol
• Mae’n diystyru penderfyniadau polisi lleol ar ardaloedd chwilio solar
• Mae’n dibynnu ar waith craffu cyhoeddus ond eto'n lleihau mewnbwn y cyhoedd ar ôl i’r cynllun gael ei gyflwyno

Rhagor o fanylion

•Mae cynigion sy’n uwch na 10MW yn osgoi rheolau cynllunio lleol, 50MW yw’r rheol yn Lloegr a’r Alban
• Mae cynigwyr yn osgoi cyfrifoldeb drwy ailddyfeisio eu hunain yn gyson
• Nid yw 40 mlynedd yn rhywbeth dros dro. Mae difrod wrth adeiladu a datgomisiynu yn atal dychwelyd i ddefnydd gwreiddiol y tir; mae cyllid annigonol ar gyfer datgomisiynu yn awgrymu nad oes bwriad. Dim tystiolaeth leol i gefnogi arbedion CO2 a ragwelir, pweru cartrefi na gwella bywyd gwyllt.
• Mae'r cynigydd yn asesu Asesiad o’r Effaith Gweledol ar y Dirwedd (LVIA), Asesiad o’r Effaith ar Olygfa Trigolion (RVIA) ac effaith gronnol drwy ddefnyddio’i fethodoleg ei hun, e.e. i asesu fflach a llewyrch
• Mae’n anwybyddu Cynllun Datblygu Lleol 10 mlynedd
• Ar ôl cyflwyno'r cynllun, nid oes angen i’r cynigydd ymgynghori â'r cyhoedd os yw cynlluniau wedi newid
Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol (DNS): canllawiau | LLYW.CYMRU
DNS/3267575ParcDyffryn2022-10-24EXNOTE002Assessment of Environmental Statement Completeness
Mae CAEVOD yn gwrthwynebu gorddatblygu yn Nwyrain Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy yn y lleoliad cywir: sef bod yn niwtral o ran carbon yng Nghymru heb ddinistrio ein cefn gwlad.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi