Deiseb Dewch yn ôl â'r Ddeddf ‘hawl i brynu’
Bydd dod yn ôl â’r hawl i brynu yn helpu cynifer o deuluoedd i aros mewn cartref y maent yn ei garu ac yn gallu ei drosglwyddo ar hyd y cenedlaethau, felly’n lleihau’r argyfwng tai yn y dyfodol.
Rhagor o fanylion
Mae pobl yn treulio’u bywydau cyfan, yn gwneud cenedlaethau o atgofion ac yn gwyli’u teulu’n tyfu – dim ond iddo gael ei gymryd i ffwrdd dair wythnos ar ôl eu marwolaeth drist.
Maent yn buddsoddi amser ac arian yn gwella eu tai ac yn eu gwneud yn gartrefi – dim ond i weld y cyngor yn ei rwygo i gyd yn ôl a pheidio â gadael y gwelliannau ar gyfer y tenant nesaf.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd