Deiseb a gwblhawyd Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb

Mae Ysgol Gynradd Libanus wedi bod yn edrych ar y model cymdeithasol ac o ganlyniad wedi edrych ar ba mor hygyrch a chynhwysol yw’n tref leol i unigolion abl ac anabl. Ar ôl ysgrifennu at y cyngor, dywedwyd nad oes rhaid i eiddo preifat ddilyn y safon llym y mae’n rhaid i fusnesau’r llywodraeth. Felly, hoffai Ysgol Gynradd Libanus fynd i’r afael â’r mater hwn i sicrhau bod pob aelod o gymdeithas yn gallu symud drwy ein tref a’n gwlad yn ddidrafferth.

Rhagor o fanylion

Mae Ysgol Gynradd Libanus yn tristáu o weld realiti byw gydag anabledd a hoffai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau holl ddinasyddion Cymru. Drwy wrando ar stori eiriolwr o Anabledd Cymru, mae’n amlwg bod modd gwneud mwy i sicrhau bod Cymru’n wlad hygyrch i bawb.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

284 llofnod

Dangos ar fap

10,000