Deiseb a wrthodwyd Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo’r defnydd o’r ddrama Iniquity (Camwedd) ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r ddrama newydd Iniquity (Camwedd) wedi’i seilio ar stori wir Richard Lewis (sef Dic Penderyn), y merthyr dosbarth gweithiol o Gymru, a Gwrthryfel Merthyr ym 1831. Mae'r ddrama’n cynnwys pedair act sydd wedi’u rhannu’n ddwy olygfa yr un, a dyma’r adlewyrchiad cywiraf o’r hanes sy’n bosibl mewn drama.

Rhagor o fanylion

Perfformiad cyntaf Iniquity (Camwedd) ym mis Gorffennaf 2021, sef 190 mlynedd yn union ers i’r gwrthryfel ddechrau, oedd y cynhyrchiad theatr byw dan do cyntaf yng Nghymru ar ôl y pandemig. Cafodd y ddrama ei pherfformio yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot (5 munud ar droed o fedd Penderyn). Yna, yn 2022, agorodd y cynhyrchiad Gŵyl Gelfyddydau Merthyr Rising, cyn teithio i ŵyl gelfyddydau fwyaf y byd, sef Gŵyl ‘Fringe’ Caeredin, a oedd yn cael ei chynnal am y 75ain tro y flwyddyn honno. Gan dderbyn adolygiadau 5 seren, cyflwynodd y cynhyrchiad hefyd ddeiseb i ryddhau Richard Lewis o fai drwy Uchelfraint Frenhinol o Drugaredd (pardwn ar ôl marwolaeth). Mae’n hollbwysig bod y genhedlaeth nesaf o Gymry yn dysgu am y straeon hyn, ac am y ffordd y gwnaeth ein hynafiaid frwydro a marw dros lawer o’r breintiau rydym yn eu mwynhau yn ein cymdeithas heddiw. Bydd dwyn yr ennyd hollbwysig hon o hanes Cymru o’r dudalen i’r llwyfan yn gyfrwng delfrydol i ni gyflawni hyn!

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi