Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod.
Mae Mencap Cymru yn pryderu y gall y newid tuag at gymdeithas heb arian parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar gyfer talu.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid disgwyl iddynt wneud hynny.
Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd