Deiseb a gaewyd Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod.

Mae Mencap Cymru yn pryderu y gall y newid tuag at gymdeithas heb arian parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar gyfer talu.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid disgwyl iddynt wneud hynny.

Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,926 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 578 o lofnodion ar bapur.