Deiseb a wrthodwyd Peidiwch â disodli cerfluniau o bobl enwog â cherfluniau eraill i hyrwyddo amrywiaeth

Rydym wedi clywed am hyn yn y wasg ac ar y teledu’n ddiweddar ac, ar 13/03/2023, eglurodd papur newydd y Daily Telegraph beth allai ddigwydd. Mae’n bosibl y gall cerfluniau beri tramgwydd i rai, ond nid yw eu rhan yn hanes cyfoethog Cymru yn ddim llai oherwydd hynny. Beth ddigwyddodd i’r syniad o gofio am gamgymeriadau’r gorffennol a dysgu ohonyn nhw?

Rhagor o fanylion

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dweud ei fod yn poeni bod y canllawiau’n ymdrech “Orwelaidd” gan gyrff cyhoeddus i ailysgrifennu hanes.
Dywedodd wrth y Telegraph: “Whether it is their erroneous misguidance for public bodies or their so-called ‘Anti-Racist Wales Action Plan’, Labour are intent on rewriting our history here in Wales.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi