Deiseb a wrthodwyd Diddymu costau’r drwydded seddi awyr agored i fusnesau yng Nghymru

Erbyn hyn, mae’r ffi y mae llawer o gynghorau yn ei chodi ar gaffis ar gyfer seddi awyr agored yn rhy uchel. Er enghraifft, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dyblu ei ffioedd yn ddiweddar, a gall hyn fod mor uchel â £1500. Yn Lloegr, dim ond ffi wedi’i chapio o £100 y mae’n rhaid i fusnesau ei thalu hyd at fis Medi 2023, pan fydd hyn yn cael ei adolygu. Mae llawer o fusnesau’n ei chael hi’n anodd talu’r costau busnes, ac mae llawer o bobl yn dymuno eistedd y tu allan oherwydd y risg o ran COVID-19. Felly ni ddylai’r cyhoedd a busnesau gael eu cosbi. Dylid cael gwared ar y ffioedd hyn neu roi cap tebyg i’r un yn Loegr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi