Deiseb a wrthodwyd Cap ar godiadau Treth Gyngor yng Nghymru

Mae Cyngor Sir Conwy yn cynyddu Treth Gyngor ar gyfer 2023/2024 gan 9.9 y cant. Dyma’r cynnydd uchaf gan unrhyw Gyngor yn y wlad. Cynigiaf ei bod yn hen bryd rhoi cap ar godiadau Treth Gyngor yng Nghymru o 5 y cant ar y mwyaf, neu’r gyfradd chwyddiant, pa un bynnag yw’r isaf ar y pryd. Ar adeg lle mae aelwydydd yn ei chael yn anodd talu costau cyffredinol sy’n cynyddu, mae cynnydd o 9.9 y cant yn y Dreth Gyngor yn warthus. Mae’n warthus ar unrhyw adeg. Mae’n bryd rhoi cap ar y dreth!

Rhagor o fanylion

Mae’r cynnydd o 9.9 y cant yn y Dreth Gyngor y cyfeiriwyd ato yn ffaith.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi