Deiseb a gwblhawyd Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua’r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied

Bob tro mae Pont Hafren (Croesfan yr M48) ar gau i draffig, mae’r ardal sy’n cynnwys Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr gyda Gwndy a Dwyrain Casnewydd yn llythrennol dod i stop. Yn fras, y rheswm dros hynny yw bod yn rhaid i draffig Cas-gwent sy’n anelu am Loegr naill ai gylchu o amgylch yr isffyrdd heibio Cil-y-coed a thrwy Fagwyr, neu fynd yn syth i lawr yr M48 i gyffordd 23 yr M4, gan droi o amgylch y gylchfan yn eu lluoedd, ac atal traffig Casnewydd a Magwyr rhag llifo allan i gyffordd 23. Mae’n rhaid dirwyn y sefyllfa hon i ben, ac mae modd gwneud hynny.

Rhagor o fanylion

Ar 13/03/2023 am 07:25 gadewais fy nghyfeiriad yng Ngwndy er mwyn mynd i weithio yn Portishead. Wedi gadael Manor Chase ar y B4245, ymunais â chiw o draffig bron ar unwaith, ac o ganlyniad roedd y daith arferol o tua phedwar/pum munud i gyrraedd ffordd ymuno tua’r dwyrain yr M4 ar gyffordd 23 wedi cymryd union ddwy awr a hanner. Roedd yn rhaid i mi ddyfalbarhau gan fy mod wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi gorfodol a oedd yn gofyn am fod yno mewn person. Dyw’r stori hon ddim heb ei thebyg. Yr un yw’r profiad i gannoedd, os nad miloedd o bobl bob tro y mae Pont Hafren ar gau i draffig. Mae'n rhaid i'r gornel gyfan hon o Gymru ddioddef y sefyllfa hon a byddai’n hawdd lleddfu'r mater gyda ffordd ymadael syml a chymharol rad rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain rhwng Rhosied a Gwndy. Cae yn unig yw'r tir ar hyn o bryd, mae'r dopograffeg yn ffafriol a byddai ffordd ymadael yn atal traffig Cas-gwent rhag cau cylchfan cyffordd 23 yn llwyr, gan osgoi’r oedi hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

368 llofnod

Dangos ar fap

10,000