Deiseb a wrthodwyd Gwerthuso’r polisi gofal diwedd oes yng Nghymru a phenderfynu pa mor drugarog ydyw i bobl.

Rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru werthuso’r polisi gofal diwedd oes yng Nghymru a phenderfynu pa mor drugarog ydyw i’r rhai sy’n cael eu rhoi arno. Gwyliais fy mam yn llwgu ac yn dioddef sychder am ddiwrnodau nes iddi ildio o’r diwedd. Nid oedd hi’n marw, cafodd ei gadael i ddirywio mewn ffordd araf a phoenus drwy fynd diwrnodau heb fwyd na diod. Nid yw hyn yn ffordd drugarog i’n hanwyliaid ein gadael ni, nid oedd hi’n cael gofal neu’n cael ei thrin fel bod dynol yn ystod diwrnodau olaf ei bywyd, fel y mae nifer fawr o deuluoedd wedi’i brofi.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi