Deiseb a wrthodwyd Dylid ei gwneud yn orfodol i ysgolion cynradd Cymru gael coed ffrwythau ar y safle.

Mae yna argyfwng economaidd ar hyn o bryd yng Nghymru sy'n effeithio ar blant ac mae hyn yn cynnwys bod llai o fwyd yn y cartref, a bod ar fwy o bobl angen cymorth gan elusennau. Hoffwn ei gwneud hi'n orfodol i bob ysgol yng Nghymru gael coed ffrwythau ar gael i'r plant felly os nad oes ganddyn nhw unrhyw fwyd gartref oherwydd tlodi ac ati byddai modd iddynt gymryd ffrwythau adref o’r goeden. Dylai hyn hefyd gynnwys plannu mwy o goed ffrwythau ledled Cymru er mwyn iddyn nhw gael mynediad atynt ar y penwythnosau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi