Deiseb a wrthodwyd Dod â'r hawl i brynu tai cyngor yn ôl
Dylid rhoi’r hawl i denantiaid cyngor presennol brynu eu tai cyngor.
Diddymwyd y cynllun hawl i brynu yng Nghymru yn 2019. Ond rwy’n credu y dylid dod ag ef ôl, i roi cyfle i denantiaid brynu’r cartrefi maent wedi byw ynddynt ers blynyddoedd a chael sicrwydd ar gyfer y dyfodol.
Rhagor o fanylion
Yn bersonol, byddai hwn yn gyfle gwych inni brynu ein cartref. Mae nam strwythurol ar y tai cyngor yn ein hardal, ond maent yn ddiogel i fyw ynddynt. Byddai’r gostyngiad yn eu gwerth yn ein galluogi i fforddio benthyciad neu forgais bach i brynu ein tai.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi