Deiseb a gaewyd Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a’i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN

Rwy’n galw am adolygiad o’r polisïau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ysgolion a chynnydd anferth yn y gefnogaeth a roddir i’r 40 y cant o’n plant sy’n wynebu trafferthion bob dydd. Mae angen dysgu iddynt dechnegau hunanreoli o'r blynyddoedd cynnar, a thrwy hynny greu ystafelloedd dosbarth hapusach, llai trafferthus, a rhoi iddynt flwch offer a fydd gyda nhw am oes. Yn y tymor hir, byddai gostyngiad mewn problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chyfraddau troseddu.

Rhagor o fanylion

Nid oes ond ychydig iawn o gyfleusterau addysgu arbenigol Cymraeg. Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn hawl plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg.

1. Dylai hyfforddiant athrawon yn y brifysgol ganolbwyntio'n sylweddol ar ADY er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn effeithiol. Mae gan 40 y cant o ddysgwyr ryw fath o ADY. Dylai hyn fod yn orfodol, nid dewisol! Mae strategaethau ADY yn helpu pob dysgwr.

2. Ymgyrch Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth – mae niwroamrywiaeth yn effeithio ar o leiaf 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru. Dylai dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o niwroddatblygiadol a sut mae'n ymddangos ac yn effeithio ar bobl fod yn gyffredin er mwyn sicrhau Cymru gynhwysol.

3. Cefnogaeth i gynorthwywyr addysgu – mae angen i gynorthwywyr addysgu gael eu gwerthfawrogi, eu hyfforddi a'u talu'n iawn

4. Cyllid ar gyfer athro niwroamrywiaeth arbenigol a chynorthwyydd addysgu ym mhob awdurdod lleol i gefnogi, arwain a hyfforddi staff yn yr ysgol.

5. Nid yw darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn cael ei chefnogi cystal ag y mae darpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac nid yw hyn yn darparu cydraddoldeb a chynhwysiant i ddysgwyr Cymraeg.

6. Bellach, mae 40 i 60 y cant o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cyffredinol yn methu â chael cod o dan y cod newydd Darpariaeth Gyffredinol yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

7. Cymorth i rieni gan staff hyfforddedig a all eu cyfeirio at gymorth ar gyfer anghenion eu plant.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,353 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad a sut i rannu eich barn.

https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40923