Deiseb a wrthodwyd Goleuadau traffig ar gylchfan Rechem/New Inn a phont droed i gerddwyr
Ar 9 Mawrth, cefais fy mwrw i lawr tra’r oeddwn yn rhedeg. Roedd angen i mi ddefnyddio'r llwybr cerdded i groesi'r gylchfan. Oherwydd y ddamwain, bu’n rhaid i mi gael fy nhrin yn y fan a’r lle gan barafeddygon ambiwlans awyr a’m cludo i ysbyty’r Mynydd Bychan. Mae'r gylchfan wedi cael ei hailgynllunio ond nid yw'n ddiogel o hyd. Ers iddi gael ei hailgynllunio, mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd ar y gylchfan hon. Mae cerddwyr, rhedwyr a beicwyr yn aml yn defnyddio'r llwybr cerdded hwn i fynd o New Inn i Gwmbrân.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi