Deiseb a wrthodwyd Dylid darparu gwasanaethau iechyd meddwl hygyrch i bobl fyddar yng Nghymru
Ar hyn o bryd, nid oes llawer o wasanaethau iechyd meddwl hygyrch, os o gwbl, i bobl fyddar yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau’n gweithredu dros y ffôn ac nid yw hynny’n ymarferol. Mae cael mynediad at ofal iechyd meddwl eilaidd fel timau argyfwng hefyd yn anhygyrch. Mae hefyd yn anodd cymryd rhan mewn grwpiau cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o bobl fyddar yn cael trafferth gyda theimlo’n ynysig ac maent yn fwy agored i’w cam-drin. Yng Nghymru, nid oes gwasanaeth sy'n gwbl hygyrch i bobl fyddar ac, o ganlyniad, mae llawer yn dioddef ar eu pen eu hunain. Mae elusennau argyfwng yn bennaf yn gweithredu dros y ffôn ac nid yw hynny'n ymarferol. Nid oes gan wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd therapïau hygyrch na ffordd ddiogel ac effeithiol i bobl fyddar gyfathrebu â’u tîm iechyd meddwl cymunedol pan fyddant mewn trallod. At hynny, mae gan weithwyr proffesiynol sy'n cynnal asesiadau iechyd meddwl ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion byddar wrth wneud diagnosis. Gall hynny arwain at gael y triniaethau anghywir. Pan fydd angen gofal cleifion mewnol neu therapïau, dim ond yn Lloegr y mae cymorth ar gael. Mae'r gofynion ar gyfer atgyfeiriadau yn gymharol lym, sy'n golygu bod llawer o bobl fyddar yn cael eu gadael i frwydro neu eu trosglwyddo filltiroedd i ffwrdd o ffrindiau a theulu.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi