Deiseb Creu GIG Anifeiliaid
Cyflwynwch GIG Anifeiliaid, pe bai ond ar gyfer anifeiliaid pensiynwyr, y rhai sydd ar fudd-daliadau prawf moddion ac ar gyfer anifeiliaid mewn achosion brys.
Pe bai milfeddygon preifat yn gallu cael gafael ar gyllid cyffredinol gan y llywodraeth byddai'n caniatáu i'r elusennau milfeddygol helpu ystod newydd o gleientiaid sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Rhagor o fanylion
Ni allai unrhyw berchennog anifail fod yn anymwybodol o gostau milfeddygol cynyddol. Un o'r rhesymau mwyaf toreithiog dros erlyniadau lles anifeiliaid a ddaw i mewn i'r SHG yw methu â cheisio cyngor milfeddygol, naill ai o gwbl, neu'n ddigon cyflym, hyd yn oed pan fydd apwyntiad i’r anifail ar gyfer pan mae'r siec cyflog nesaf yn cyrraedd. Mae bron pob milfeddyg wedi gweld anifeiliaid yn ystod y 12 mis diwethaf y dylent fod wedi eu gweld yn gynharach.
https://www.vettimes.co.uk/news/report-shows-growing-number-of-clients-delaying-treatment-for-their-pets/
Problemau ariannol a roddwyd fel y prif reswm mewn 91 y cant o achosion.
Mae amseroedd yn anodd ac mae llawer o alwadau ar gyllid y llywodraeth ond mae manteision cwmnïaeth anifeiliaid wedi ei hen brofi, ac yn golygu y byddai GIG Anifeiliaid yn talu amdano'i hun lawer gwaith drosodd, pe bai ond drwy leihau galwadau ar y llysoedd a chymorth cyfreithiol.
Gall Cymru wneud yn well a rhaid iddi wneud yn well.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd