Deiseb a gaewyd Dylid atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag torri coed, sy’n bygwth parhad gwiwerod coch
Yn 2021, trafododd y Senedd Ddeiseb rhif P06-1208 i gael deddfau newydd i ddiogelu cynefin gwiwerod coch. Roedd y ddeiseb hefyd yn tynnu sylw at y modd yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ardal gogledd orllewin Cymru wedi methu â monitro poblogaethau gwiwerod yng nghoedwigoedd Niwbwrch a Phentraeth ar Ynys Môn. Roedd gwaith ymchwil dilynol yn datgelu gostyngiadau diffwysol o ran gwiwerod yng nghoedwig Niwbwrch a oedd yn gysylltiedig â thorri gormod o goed.
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37917
Nawr yng Ngwynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto yn torri coed heb ddata am wiwerod, gan awgrymu unwaith eto y gall 'canllawiau mewnol' annelwig wneud iawn am hyn.
Rhagor o fanylion
Mae’n anhygoel y gall Cyfoeth Naturiol Cymru integreiddio cadwraeth gwiwerod coch yn llwyddiannus â gwaith rheoli coedwigoedd masnachol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond yn gyfagos yn y gorllewin mae’n draed moch di-drugaredd.
Mae gwiwerod coch yng Ngwynedd wedi cael eu dinistrio gan feirws brech y wiwerod.
https://bylines.cymru/environment/squirrelpox-endangers-red-squirrels-and-livelihoods/
Llofnododd 10,000 o bobl ddeiseb i 'Ariannu ymchwil i frechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws brech y wiwerod, sy’n farwol'.
Nawr mae'r ychydig wiwerod coch sydd wedi goroesi yn wynebu loteri o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwaredu eu cartrefi yn ddall. O ystyried gwerth twristiaeth gwiwerod coch (sef £1 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn), gwerth y rhywogaeth o ran llesiant, ac ymrwymiadau niferus y Llywodraeth i warchod poblogaethau gwiwerod, pam mae’n frwydr gyson â Chyfoeth Naturiol Cymru yn ardal y gogledd orllewin?
A oes unrhyw syndod bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant?
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon