Deiseb a gwblhawyd Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd.

Ym mis Hydref 2022, roedd rhestr aros 26 mis i gofrestru gyda deintydd GIG a chael archwiliad yng Nghymru.
Roedd llythyr agored gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain deintyddion y GIG yn beirniad contractau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn galw am welliannau a buddsoddiadau y mae mawr eu hangen i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol.
Roedd yn mynegi pryderon ynghylch llawer o ddeintyddion yn gadael y GIG i fynd i bractis preifat.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64351984
Dylai pawb gael mynediad at ofal deintyddol, archwiliadau rheolaidd a thriniaeth amserol.

Rhagor o fanylion

Yn anffodus, mae fy neintydd wedi gadael y GIG i fynd i bractis preifat. O ganlyniad, rwyf wedi bod yn chwilio am ddeintydd GIG arall ac mae’r un agosaf y gwnes i ei ganfod 79 milltir o fy nghartref, sy’n annerbyniol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

639 llofnod

Dangos ar fap

10,000