Deiseb a wrthodwyd Uchafswm o £86,000 ar y swm y dylai unrhyw un fod angen ei wario ar eu gofal personol yn ystod eu hoes.
Caiff cyllid pobl ei asesu i benderfynu a ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol yng Nghymru, a bydd llawer o bobl yn gwario’r rhan fwyaf o’u cynilion oes neu’n gwerthu eu cartref i dalu am eu gofal cymdeithasol.
Mae hyn yn digwydd er gwaethaf y ffaith eu bod wedi gweithio ar hyd eu hoes ac wedi talu i’r system drwy drethi ac yswiriant gwladol. Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn y rhan hon o’r boblogaeth.
Ym mis Hydref 2022, cafodd uchafswm o £86,000 ar y swm y dylai unrhyw un yn Lloegr fod angen ei wario ar eu gofal personol yn ystod eu hoes, ei basio gan Lywodraeth y DU. Dylai Cymru gyflwyno hyn fel yn Lloegr.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi