Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod holl rieni plant newydd-anedig yn cael gwybodaeth am hawliau plant yn uniongyrchol

Mae gan blant hawliau. Mae'n bwysig bod rhieni'n cael gwybod pa hawliau sydd gan blant, megis hawliau i addysg a gofal iechyd, yr hawl i chwarae, yr hawl i fywyd teuluol a'r hawl i gael eu cadw'n ddiogel. Ond nid yw'r rhan fwyaf o rieni yn cael gwybod am yr hawliau hyn na ble i fynd am wybodaeth a chyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol ond mae angen inni ddweud wrth bobl beth mae hyn yn ei olygu yn eu bywyd bob dydd ar sail effeithiol uniongyrchol.

Rhagor o fanylion

Ffordd effeithiol ac uniongyrchol o ddarparu gwybodaeth i bob rhiant fyddai pan fyddant yn cofrestru genedigaeth eu plentyn. Mae Cyngor Sir Caerdydd eisoes wedi mabwysiadu dull o'r fath ac mae awdurdodau lleol a sefydliadau plant eraill wedi mynegi diddordeb yn y syniad. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dull cyson yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru i ddarparu gwybodaeth hanfodol i deuluoedd er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hyrwyddo a’u cyrchu’n weithredol, ni waeth ym mha awdurdod lleol y mae teuluoedd yn byw. Ac yna bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael yr un cyfle i fyw bywyd llawn a llewyrchus â’r gweddill.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi