Deiseb a wrthodwyd Codi pob cyfyngiad ar gartrefi gofal pan fydd Covid yn bresennol, i sicrhau ansawdd bywyd i’r preswylwyr.
Mae cyfyngiadau wedi bod ar fywydau preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal ers dros dair blynedd. Llai na thair blynedd yw’r disgwyliad oes ar gyfartaledd wedi i berson hŷn symud i gartref gofal. Mae hyn yn golygu bod llawer gormod o breswylwyr eisoes wedi marw ar ôl byw eu misoedd/blynyddoedd olaf heb gael gweld eu hanwyliaid. Mae cyfyngiadau yn Lloegr wedi’u llacio ers mis Hydref 2022, ond mae cyswllt preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru â’u hanwyliaid yn parhau i gael ei gyfyngu pan fydd Covid yn bresennol.
Rhagor o fanylion
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gosod cyfyngiadau pan fydd Covid yn bresennol mewn cartref gofal. Mae hyn yn cyfyngu cyswllt hollbwysig â theulu a ffrindiau i ddau ymwelydd penodedig.
Gall gweithgareddau awyr agored gael eu cyfyngu os oes gan breswylwyr eraill Covid, er bod llawer o’r boblogaeth yn crwydro o gwmpas gyda’r feirws. Mae angen i’n henoed gael gadael y cartref er lles eu hiechyd meddwl.
Mewn cartref gofal yn ddiweddar, rhoddwyd cyfyngiadau ar waith oherwydd bod gan 20 o’r preswylwyr Covid. Yn unol â’r canllawiau, dim ond preswylwyr â symptomau sy’n gorfod cael eu profi. Canfuwyd yn ddiweddarach bod rhai o’r preswylwyr a’r staff yn asymptomatig sy’n golygu pe na bai’r cartref wedi profi pawb eu hunain y gallai’r preswylwyr fod yn ynysu am fisoedd lawr. Ni wnaeth yr un o’r preswylwyr farw na gorfod mynd i’r ysbyty yn sgil y feirws.
Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu profion llif unffordd am ddim er mwyn gallu profi staff a phreswylwyr asymptomatig hefyd.
Mae’n bryd gadael i’r henoed fyw gweddill eu bywydau â’r rhyddid i wneud yr hyn a fynnant.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi