Deiseb a wrthodwyd Hyfforddiant/arweiniad ar gyfer seicolegwyr i nodi a chefnogi dioddefwyr ymddygiadau dieithrio camdriniol.

Rydym yn gwybod bod ymddygiad dieithrio yn fath difrifol o gamdriniaeth seicolegol na ellir ei hanwybyddu mwyach. Rhaid i weithwyr iechyd meddwl yng Nghymru gydnabod ymddygiadau dieithrio. Yn aml, mae plant neu oedolion sy’n agored i niwed yn aros gyda’r camdriniwr, ac mae hyn yn gwaethygu’r niwed seicolegol. Nid oes gan seicolegwyr unrhyw arweiniad na chyngor i ymdrin â’r rhai sy’n dioddef neu’n goroesi’r math hwn o gamdriniaeth. Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiadau posibl â niwed i’r ymennydd o ganlyniad i drawma seicolegol a achosir gan ymddygiadau dieithrio a narsisaidd.

Rhagor o fanylion

Ceisiwch gyfryngu, peidiwch â dieithrio!
Ymgyrch gan Gymorth Neiniau a Theidiau Cymru
Amcangyfrifir bod o leiaf 2 filiwn o blant yn y DU yn cael eu hamddifadu o gysylltiad â’u neiniau a theidiau, (canlyniad astudiaeth a gomisiynwyd gan IBB Solicitors ym mis Hydref 2019)
Mae teuluoedd yn chwalu am amrywiaeth o resymau, gwahanu ac ysgariad, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, trais yn y cartref, profedigaeth a ffraeo teuluol.
Mae gan bob plentyn yr hawl i berthynas gariadus a gofalgar gyda'u neiniau a theidiau oni chaiff ei brofi i fod yn anniogel i’r plentyn. (https://bristolgrandparentssupportgroup.co.uk/)
Mae plant, rhieni a neiniau a theidiau sy'n wynebu’r ymddygiadau camdriniol hyn yn profi’r un ymatebion i drawma â’r rhai sydd wedi dioddef mathau eraill o gamdriniaeth.
O ystyried y galw presennol ar wasanaethau iechyd meddwl, mae bellach yn ofyniad hanfodol bod seicolegwyr yn cael eu hyfforddi i nodi ymddygiadau dieithrio yn gynnar er mwyn dechrau therapïau cyn gynted â phosibl.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi