Deiseb a wrthodwyd Dylid datblygu pwll nofio 50m yng ngogledd Cymru

Mae gogledd Cymru angen pwll nofio maint Olympaidd, sef pwll 50m o hyd, gan nad yw nofwyr ifanc yng ngogledd Cymru yn cael chwarae teg wrth ddilyn y gamp.
Mae’r nofwyr gorau yng ngogledd Cymru yn teithio i Loegr (i Lerpwl neu Stockport) neu i dde Cymru (i Abertawe neu Gaerdydd) er mwyn hyfforddi neu gymryd rhan mewn cystadlaethau.
Yn sgil hynny, mae nifer y bobl yn y Gogledd sydd am gystadlu mewn cystadlaethau nofio wedi gostwng dros y blynyddoedd, ac un o’r rhesymau am hynny yw'r diffyg adnoddau priodol ar gyfer hyfforddi yn y Gogledd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi