Deiseb a wrthodwyd Sicrhau mai Cymru ydy Cymru ac nid Wales - fel Yr Wyddfa, fel Eryri ac fel Bannau Brycheiniog

Mae’n bwysig i sicrhau enw Cymru ar y llwyfan byd eang a dilyn esiampl eraill drwy sicrhau dyfodol i enwau Cymraeg

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb ar y mater hwn yn ddiweddar:
Ailenwi 'Wales', gan ddefnyddio ei henw gwreiddiol, sef Cymru

Gellir gweld manylion ystyriaethau blaenorol y Pwyllgor ar y mater yma
https://business.senedd.wales/ieIssueDetails.aspx?IId=40508&Opt=3

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi