Deiseb a gaewyd Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Rydym wedi ein llorio gan benderfyniad Betsi Cadwaladr i gau ‘dros dro’ ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn. Rydym am i’r ward gael ei hailagor ar unwaith.
Mae cau'r ward hon heb unrhyw ymgynghori na hysbysiad yn gam bwriadol ac anhryloyw; mae’n gamddefnydd o wasanaeth cyhoeddus ein cymuned.
Gallwch ein cefnogi drwy lofnodi'r ddeiseb. Diolch am eich cefnogaeth.

Rhagor o fanylion

Cafodd staff a chleifion wybod ar y dydd Iau y bydden nhw'n cael eu symud i ysbyty Dolgellau erbyn y dydd Mawrth dilynol.
Dim rhybudd, dim ymgynghori, dim trafod, dim rhesymeg.
Pe na bai staff am symud i Ddolgellau bydden nhw heb swydd. Mae Tywyn yn ysbyty newydd sydd ag offer a chyfleusterau rhagorol. Mae gan ein hysbyty staff gwych yn gweithio ynddo. Mae ein perthnasau a’n ffrindiau wedi cael y gofal gorau posibl y gallai rhywun ddymuno ei gael.
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad yw'n gallu recriwtio digon o staff i lenwi swyddi. Rydym am weld y dystiolaeth sydd gan y bwrdd iechyd sy’n dangos eu bod mewn gwirionedd wedi mynd ati i recriwtio staff ar gyfer ein hysbyty.
Mae'r ysbyty hwn yn adnodd hanfodol yn ein cymuned. Os gwelwch yn dda, cefnogwch ein hymgyrch.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,314 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar Bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 4,214 o lofnodion ar bapur. Sef cyfanswm o 5,528 lofnodion wedi casglu.