Deiseb a gaewyd Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru

Mae Prosiect Amgylcheddol pro bono myfyrwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd wedi ystyried Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a sut y gellid eu gwella yng Nghymru, ac wedi cynhyrchu adroddiad byr.
Fodd bynnag, os bydd y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn cael ei basio, bydd yr holl is-ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE yn dod i ben ddiwedd 2023, gan gynnwys Rheoliadau 2004.
Byddai’r DU yn torri Confensiwn Aarhus.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’i phwerau i gadw Rheoliadau 2004 i Gymru.

Rhagor o fanylion

Mae pwysigrwydd yr hawliau a roddwyd i’r cyhoedd gan Gonfensiwn Aarhus (a, thrwy hynny, gan Reoliadau 2004) wedi’u crynhoi’n wych yn achos Fish Legal yn erbyn Comisiynydd Gwybodaeth United Utilities plc Yorkshire Water Services Ltd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig [2015] UKUT 52 (AAC), ym mharagraff 57:
“The Aarhus Convention...links environmental rights and human rights. It acknowledges that we owe an obligation to future generations. It establishes that sustainable development can be achieved only through the involvement of all stakeholders. It links government accountability and environmental protection. It focuses on interactions between the public and public authorities in a democratic context and it is forging a new process for public participation in the negotiation and implementation of international agreements...
...it is also a Convention about government accountability, transparency, and responsiveness..."

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

272 llofnod

Dangos ar fap

10,000