Deiseb a gwblhawyd Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd
Yn hanesyddol mae'r rhai sy'n dangos arwyddion o syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd wedi cael eu cyfeirio at adrannau rhewmatoleg. Yn 2021, fe'u cyfarwyddwyd i roi'r gorau i weld y cleifion hyn er mwyn iddynt gael diagnosis a rheolaeth mewn gofal sylfaenol, ond nid yw’r adnoddau ar gyfer y rôl hon mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd. Mae gwasanaeth trydyddol unigryw yn Lloegr hefyd wedi cau i gleifion o’r tu allan i'r ardal. Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at anghydraddoldebau o ran cael gafael ar ofal iechyd i'r rhai sydd ag EDS ac anhwylderau sbectrwm hypersymudedd yng Nghymru gan arwain at ddioddefaint annerbyniol.
Rhagor o fanylion
Mae syndromau Ehlers-Danlos yn anhwylderau genetig ar y meinwe cysylltiol gyda symptomau ledled y corff a all achosi anabledd, gan effeithio ar bob agwedd ar fywyd. Mae un math sy'n peryglu bywyd. Mae symptomau'r rhan fwyaf o fathau'n cynnwys problemau cyhyrysgerbydol, poen cronig a blinder, aflonyddwch gastroberfeddol, croen bregus, problemau gyda’r pelfis a’r bledren, camweithrediad awtonomig a gorbryder. Gellir cael diagnosis o ran deuddeg o'r 13 math drwy brofion genetig. Nid oes un prawf ar gyfer y math mwyaf cyffredin (hEDS) nac ar gyfer yr anhwylderau sbectrwm hypersymudedd cysylltiedig, sy'n gwneud diagnosis yn heriol. Gyda'i gilydd, mae hEDS a HSD yn weddol gyffredin. Mewn astudiaeth yn 2019, a oedd yn defnyddio data o ysbytai Cymru a chofnodion meddygon teulu, canfu bod 1 o bob 500 o bobl yn cael eu heffeithio (Demmler et al, https://bmjopen.bmj.com/content/9/11/e031365).
Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn achosi dioddefaint i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis, y rhai sydd ar lwybrau triniaeth amhriodol, a'u teuluoedd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon