Deiseb a wrthodwyd Dylai arwyddion ffordd, negeseuon ffôn wedi'u recordio a negeseuon SMS fod yn Saesneg yn gyntaf
Mae’r mwyafrif llethol o bobl Cymru, os nad pawb, yn siarad ac yn deall Saesneg, tra bod cryn dipyn yn llai ohonynt yn siarad ac yn deall y Gymraeg. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth mewn llawer o sefyllfaoedd. Mae’r rhai ohonom sy’n ddi-Gymraeg, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi’n geni a'n magu yng Nghymru, yn cael ein gwneud i deimlo fel dieithriaid yn ein gwlad ein hunain!
Rhagor o fanylion
Profodd Llywodraeth y DU rybudd brys am 15.00 yn ddiweddar. Fe'i darllenwyd yn Gymraeg yn gyntaf, cyn y Saesneg. Bu'n rhaid aros i'r cyfieithiad Saesneg gael ei ddarllen. Gallai’r funud neu ddwy honno wneud byd o wahaniaeth mewn sefyllfa lle mae bywydau yn y fantol. Saesneg ddylai fod yn gyntaf mewn unrhyw ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhoi’r Gymraeg uwchben y Saesneg ar arwyddion ffordd yn peryglu diogelwch gan fod yn rhaid i yrwyr di-Gymraeg dreulio mwy o amser yn edrych ar yr arwydd ffordd i ddod o hyd i'r iaith y maent yn ei deall. Nid yn unig y mae'r rhan fwyaf o yrwyr yng Nghymru yn methu â deall y Gymraeg, ond nid yw ymwelwyr yn gallu ei deall ychwaith.
O ran systemau ateb ffôn awtomataidd, mae'n rhaid i bobl ddi-Gymraeg dreulio mwy o amser ar yr alwad yn aros i glywed y neges yn yr iaith y maent yn ei deall. Nid yn unig y mae hyn yn cynyddu eu biliau ffôn/yn gwastraffu eu ‘munudau am ddim’, ond gallai olygu bod yn rhaid iddynt roi'r gorau iddi os nad oes ganddynt lawer o amser i'w neilltuo i'r alwad.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio deddfwriaeth newydd a fyddai’n galluogi hyn i ddigwydd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi