Deiseb a gaewyd Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe.

Mae'r cynlluniau ar gyfer .skyline yn cynnwys preifateiddio man cyhoeddus agored ar gyfer prosiect na ŵyr neb a fydd yn llwyddo ai peidio. Bydd cyfranddalwyr y cwmni preifat hwn yn elwa ar y chwistrelliad mawr hwn o arian, ond mae perygl iddo greu difrod amgylcheddol mawr, a hynny heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant y fenter yn yr hirdymor.
Goblygiadau’r cais yw y caiff amwynder natur lleol a ddefnyddir yn helaeth ei golli. Dylid gweithredu mewn modd gwell, sef: Defnyddio cynlluniau presennol i warchod a gwella bioamrywiaeth y rhan wyllt hon o Abertawe. Mae grant arian mawr ar gyfer dim budd penodol yn annoeth.

Rhagor o fanylion

Trodd llygredd gwenwynig a ddeilliodd o orffennol diwydiannol metel trwm Abertawe ein bryniau’n dir diffaith, nes yn 70au’r ganrif ddiwethaf, dechreuodd partneriaeth rhwng ein Cyngor a'r Brifysgol ei drawsnewid yn raddol yn goetir pinwydd, oherwydd dyna’r unig rywogaeth a allai dyfu yno. Dechreuodd y gymuned leol ac ysgolion gyfrannu bryd hynny, ac mae hyn wedi parhau hyd heddiw oherwydd mae grŵp gwirfoddol yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddad-ddofi’r coetir fel bod rhywogaethau a chreaduriaid cynhenid bellach yn ffynnu.
Rydym yn falch bod ein coetir yn cael ei adnabod fel yr enghraifft orau o goetir trefol wedi'i adfywio yng Nghymru, ac mae gan bobl leol feddwl y byd ohono fel lle arbennig i fwynhau’r gwyrddni a’r awyr iach ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Mae’r ardal hefyd yn ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer ysgolion lleol. Os oes arian i'w wario, gadewch i ni gael rheolaeth o’r coetir, llwybrau, gwaith cynnal a chadw llwybrau, ceidwaid, hynny yw, pethau nad ydym wedi’u cael ers 25 mlynedd!

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,109 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 942 o lofnodion ar bapur.