Deiseb a wrthodwyd Dechrau gwasanaeth bws TrawsCymru rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth

Er bod gwasanaeth trên rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth, mae llawer o leoedd rhwng y ddwy dref hyn nad ydynt yn rhan o’r gwasanaeth, sy’n golygu bod llawer o bobl yn gorfod defnyddio car neu dacsi i gyrraedd yr orsaf drên agosaf, er enghraifft Llanidloes. At hynny, nid oes gwasanaeth bws rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth ar hyn o bryd, ac felly nid oes unrhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael, i bob pwrpas, ar gyfer llawer o’r ardaloedd hyn.

Rhagor o fanylion

Byddai gwasanaeth bws newydd y gellir ei integreiddio â gwasanaethau ar Reilffordd y Cambrian yn gwella mynediad yr ardaloedd hyn at drafnidiaeth gyhoeddus, gan wella cysylltiadau trafnidiaeth cyffredinol yn yr ardaloedd gwledig iawn hyn yng Nghanolbarth Cymru.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi