Deiseb a wrthodwyd Dylid atal y gwaith o garthu tywod o'r baeau o amgylch y Gŵyr ac Abertawe
Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o dywod yn diflannu o draethau’r Gŵyr. Mae traethau megis Langland a Llangynydd bellach yn cynnwys mannau creigiog mawr lle mae tywod wedi diflannu. Mae tywod o'r traethau yn cael ei olchi i ffwrdd i gymryd lle'r tywod sy'n cael ei garthu.
Rhagor o fanylion
Mae cofnodion gweledol ar gael o’r tywod yn cael ei dynnu oddi ar draethau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi