Deiseb a gaewyd Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd.
Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd.
Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd; ar dir amaethyddol ar fferm o’r enw Penyfodau Fawr, Abertawe, SA4 4LN a'r ardaloedd cyfagos. O ganlyniad i’r datblygiad hwn, bydd paneli solar yn gorchuddio rhan o’r fferm. Bydd yr effaith weledol ar ffordd ddynesu ger AHNE Gŵyr yn niweidiol.
Rhagor o fanylion
Bydd yn cael effaith niweidiol hefyd ar fannau gwyrdd.
Bydd nid yn unig yn amharu ar harddwch naturiol; bydd yn effeithio ar adar sy'n nythu ar y ddaear ynghyd â llwybrau mudo rhywogaethau adar.
Ni ellir caniatáu i’r prosiect hwn fynd rhagddo.
Bydd fferm sy’n cynnig gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol yn cael ei newid yn sylweddol.
Bydd mannau gwyrdd yn cael eu colli.
Bydd yn effeithio ar gynefinoedd anifeiliaid.
Efallai bod y prosiect hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ynni adnewyddadwy gwyrdd, ond ni ellir caniatáu iddo fynd rhagddo. Bydd yr effaith ddilynol ar ffermio lleol, bywyd gwyllt a'r gymuned yn drech na'r angen i roi’r prosiect hwn ar waith.
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn yn ffurfiol i’r prosiect hwn beidio â chael ei gymeradwyo fel unrhyw fath o ddatblygiad.
* Cafodd testun y ddeiseb hon ei newid ers ei chreu i adlewyrchu gwybodaeth newydd am y cais.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Llofnodion ar bapur
Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 2,092 o lofnodion ar bapur.