Deiseb a gaewyd Rydym am i gymorthdaliadau fferm gael eu hymestyn i arddwyr bach a garddwyr marchnad.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn cael tua 50 y cant o’u hincwm o gymorthdaliadau’r llywodraeth. Mae hyn yn golygu bod ganddynt ddigon o arian i wneud bywoliaeth o ffermio a gallant barhau i dyfu bwyd. Mae'r rhan fwyaf o ffermydd yn fawr ond mae ffermydd bach (1-5 hectar) yn fwy cynhyrchiol ac yn tueddu i dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer marchnadoedd lleol. Nid yw’r rhain yn gymwys i gael cymorthdaliadau ar hyn o bryd, oherwydd eu maint, sy’n annheg ac yn dangos diffyg cefnogaeth i dyfu bwyd yn lleol ac yn dymhorol.

Rhagor o fanylion

Ysbrydolwyd y ddeiseb hon gan OurFood1200. Mae’n awyddus i adeiladu ffermio sydd:
Ar raddfa fach, sy’n gynhyrchiol iawn ac yn fasnachol hyfyw.
Yn helpu i ddarparu sicrwydd bwyd yn ne Cymru.
Yn rhoi cyfle i'r rhai sy’n dlawd o ran asedau, yn enwedig ein pobl ifanc, gael mynediad at dir a dechrau menter ffermio adfywiol.
Yn hyrwyddo cymuned drwy fasnachu lleol a chydberchnogaeth gymunedol o’n tirwedd – “economi sylfaenol”.
Yn adfywiol: adeiladu bioamrywiaeth yn bwrpasol, gosod carbon yn y pridd, ac osgoi cemegau niweidiol a llygredd.
Yn creu cadwyni cyflenwi lleol byr sy'n cadw elw'n lleol ac ar raddfa sy'n agor cyfleoedd newydd i bob ffermwr lleol.
Yn darparu cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chymorth lles meddyliol i gymunedau.
Yn annog bwyta'n iach drwy sicrhau bod ffrwythau a llysiau ffres, maethlon, wedi'u tyfu'n lleol ar gael i bawb yn ein rhanbarth.
Yn lleihau effaith ein defnydd o fwyd a diod ar allyriadau carbon a datgoedwigo ledled y byd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

413 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad ar agor

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru i glywed barn am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y rhaglen i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Yn yr ymateb i'r ddeiseb fe wnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru annog y rhai sy'n gweithio ym maes garddwriaethol i roi adborth i’r ymgynghoriad gydag awgrymiadau ynghylch sut y gellid cefnogi eu sector o fewn model y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 7 Mawrth 2024 ac mae ar gael trwy’r linc yma: www.llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-ymgynghori