Deiseb a gaewyd Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes
Nid yw pob anabledd yr un fath, mae rhai yn para gydol oes, sy'n golygu nad ydynt yn newid dros amser.
Yn anffodus, mae’r canllawiau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sydd â diagnosis gydol oes, sy'n cynnwys anableddau dysgu neu anghenion dwys a chymhleth, ailymgeisio am fathodyn glas bob tair blynedd. Gall y broses hon fod yn rhwystredig iawn, mae’n cymryd llawer o amser i unigolion a'u gofalwyr ei chwblhau ac mae’n canolbwyntio ar agweddau negyddol ar allu unigolyn.
Rhagor o fanylion
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’n nodi y caniateir i bobl ag anableddau gael eu trin yn fwy ffafriol ar sail y dystiolaeth a gyflwynir, i sicrhau cyfle cyfartal.
Credwn y dylid diweddaru'r broses i roi mwy o gymorth i’r rhai ag anableddau drwy wneud bywyd yn haws i'r rhai sydd â chyflyrau gydol oes.
Rydym, gan hynny, yn cynnig newid, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y broses bresennol o wneud cais am fathodyn glas, i roi'r hyn sy'n iawn i bobl anabl a’u cynorthwyo.
Byddai’r newid hwn yn caniatáu i bobl gael bathodyn glas sy’n para gydol oes os oes ganddynt gyflwr meddygol gydol oes nad oes disgwyl iddo wella, ac os yw eu nodiadau iechyd cysylltiedig yn cadarnhau hynny.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon