Deiseb a gaewyd Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru

Ar adeg pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau byw, nid yw’n ymarferol i bobl fynd i gostau er mwyn gorfod teithio rhwng ac ar draws trefi a dinasoedd Cymru.
Bydd cynlluniau fel yr un sy’n cael ei ystyried yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn effeithio’n anghymesur ar y rheiny sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, er gwaetha’r honiadau bod pobl mewn ardaloedd tlotach yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar.
Mae pobl Cymru am ei gwneud yn gwbl glir NAD YDYM yn cefnogi gweithredu’r cynlluniau hyn.

Rhagor o fanylion

Cynllun gwneud arian yn unig yw’r cynlluniau ar gyfer taliadau ffyrdd, parthau atal tagfeydd ac ardoll parcio mewn gweithleoedd.

Dyma linc i’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Caerdydd sy’n dangos yn glir mai’r bwriad yw rhoi tâl arall ar ddefnyddwyr ffyrdd.

https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/cynllun-tal-defnyddwyr-ffyrdd-caerdydd/

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

340 llofnod

Dangos ar fap

10,000