Deiseb a wrthodwyd Gwnewch i’r Lywodraeth Cymru a'rholl asiantaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio gwasanaeth Rhadbost yn lle blwch Swyddfa’r Post
Fel arfer, mae asiantaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio blychau Swyddfa’r Post. Enghraifft dda o hyn yw Gwasanaethau Cwsmeriaid y Lwfan Cynhaliaeth Addysg.
Mae hyn wedi achosi llawer o rwystredigaeth oherwydd yr anghyfleustra o geisio dod o hyd i siop sy’n gwerthu stamp unigol, a hefyd y gost, sy’n codi’n gyson, i brynu stamp/llyfr stampiau ac sy'n anodd i rai pobl (yn enwedig y rhai sydd ar fudd-daliadau fel fi) ei fforddio gyda'r argyfwng costau byw parhaus.
Byddai defnyddio gwasanaeth Rhadbost yn datrys y broblem hon yn hawdd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi