Deiseb a wrthodwyd Mwy o fesurau i gefnogi'r rheini sydd â chlefyd seliag.

Mae clefyd seliag yn gyflwr lle mae'ch system imiwnedd yn ymosod ar eich meinweoedd eich hun pan fyddwch chi'n bwyta glwten.
Ar ben hynny, mae'n eich atal rhag cymryd maetholion.

Rhagor o fanylion

Yn y lle cyntaf, gwell addysg ac ymwybyddiaeth: Dyma ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried rhoi rhaglenni addysg bellach ar waith mewn ysgolion cyfun sy’n codi ymwybyddiaeth o glefyd seliag ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ysgolion, gweithleoedd, a’r cyhoedd yn gyffredinol drwy ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau.

Yn ail, dewisiadau hygyrch di-glwten: Dyma alw ar Lywodraeth Cymru i eiriol dros argaeledd cynyddol opsiynau di-glwten mewn bwytai, caffeterias, a sefydliadau bwyd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi