Deiseb a wrthodwyd Banish "School Streets",

A School Street is a road outside a school with a temporary restriction on motorised traffic at school drop-off and pick-up times. The restriction applies to school traffic and through traffic.
These so called restrictions, victimise car drivers, who are not residents in that area. And criminalise honest road fund licence payers, who need to use those Streets during the restrictions.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mater i awdurdodau lleol yw dynodi strydoedd ysgolion.

Ni all deisebau i’r Senedd ymwneud â mater y mae gan awdurdod lleol gyfrifoldeb gweithredol drosto ac, felly, ni allwn dderbyn deiseb sy’n ymdrin â’r mater hwn.

Yn hytrach, gallech ystyried cysylltu â Chyngor Sir Gâr neu’ch cynrychiolydd lleol i drafod y mater neu defnyddio ei system ddeisebau https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/cynghorwyr-acau-ac-asau/strategaeth-cyfranogiad-y-cyhoedd-ar-cynllun-deiseb/

Neu gallwch greu deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio cefnogi strydoedd ysgol.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi