Deiseb a gaewyd Cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon

Mae diffibriliwr yn ddyfais sydd wedi'i chynllunio i achub bywydau mewn argyfwng. Mae'n chwarae rhan hanfodol mewn darparu gofal yn y man a’r lle i unigolion sy'n dioddef ataliad y galon. Yn ystod argyfwng meddygol o'r fath, mae amser yn hanfodol, a gall presenoldeb diffibriliwr wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Mae ymchwil wedi dangos bod cyfraddau goroesi yn cynyddu i 50-70% lle defnyddir diffibriliwr. Mae'r dyfeisiau hyn yn hawdd eu defnyddio—gall unigolion heb fawr o hyfforddiant eu defnyddio.

Rhagor o fanylion

Drwy ychwanegu’r ddeddfwriaeth hon, byddai mwy o ddiffibriliwyr o fewn cyrraedd pobl yn eu gweithleoedd a’u clybiau chwaraeon, ac o’r herwydd byddai cyfraddau goroesi’n cynyddu ymysg pobl sy’n dioddef ataliad y galon yn y mannau hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

380 llofnod

Dangos ar fap

10,000