Deiseb a wrthodwyd Gwahardd defnyddio cynhyrchion fêpio mewn mannau caeedig a mannau cyhoeddus dan do
Mae wedi dod i'r amlwg, wrth i fwy o bobl ddechrau fêpio, eu bod yn tueddu i ddiystyru'r bobl o'u cwmpas drwy fêpio mewn mannau caeedig a chyhoeddus. Nid yw’r bobl hynny yn poeni am y ffaith bod gan bobl eraill gyflyrau meddygol neu fod plant yn yr ardal. Yn bersonol, mae pobl wedi fêpio yn uniongyrchol tuag ata i, ac mae gen i gyflwr meddygol hefyd.
Rhagor o fanylion
Mae nifer o astudiaethau gwyddonol wedi tynnu sylw at yr effeithiau niweidiol ar iechyd sy'n gysylltiedig â fêpio. Mae'r anweddau sy’n dod o e-sigaréts yn cynnwys cemegau niweidiol, gan gynnwys nicotin, fformaldehyd, a metelau trwm, sy'n peri risgiau difrifol i’r sawl sy’n fêpio a’r sawl sy'n dod i gysylltiad ag anwedd ail-law.
Pam ddylai pawb arall orfod anadlu'r tocsinau hyn? Yn union fel ysmygu mewn adeiladau, dylai fêpio fod yn anghyfreithlon hefyd. Ni ddylwn i na phobl fel fi fod yn anadlu’r tocsinau gan fod pobl yn hunanol ac yn niweidio iechyd pobl â chyflyrau iechyd a phlant ifanc. Fyddech chi ddim yn ysmygu sigaréts ar fws, felly sut mae fêpio yn wahanol?
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi