Deiseb a gwblhawyd Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG

Ar hyn o bryd, nid yw gweithwyr asiantaeth yn cael yr un mesurau diogelu a chymorth gan fyrddau iechyd â chyflogeion eraill y GIG. Fel gweithiwr cymorth gofal iechyd asiantaeth, rwyf wedi cael profiad personol o fod yn destun honiadau anwir a di-sail a barhaodd am fisoedd, ac nid oedd gennyf hawl na chyfle i herio’r rhain. Byddai wedi bod gennyf rwymedïau neu hawl mewn llys barn pe bai’r GIG wedi bod yn fy nghyflogi’n uniongyrchol.

Rhagor o fanylion

Mae’r GIG yn dibynnu ar weithwyr asiantaeth i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Dylid eu trin yn deg.
Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu, yn ei swyddogaeth goruchwylio, y polisïau sy’n rheoli’r ffordd y caiff gweithwyr sy’n cael eu recriwtio drwy asiantaethau eu cyflogi a’u trin.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

422 llofnod

Dangos ar fap

10,000